Sunday 25 February 2007

Beth yw pwrpas y blog?

Mae Cymru yn gyson wedi bod yn gartref i gricedwyr o fri. Wedi dweud hynny, dim ond dau o Gymry Clwb Criced Morgannwg sydd wedi cael y cyfle i ddangos eu doniau yng Nghwpan y Byd. Fe gynrychiolodd Croft Lloegr yn 1999, a David Hemp oedd yr unig chwaraewr proffesiynol yng ngharfan Bermuda yn 2007. Ein cynnig ni yw y dylai Cymru gael ei wneud yn Aelodau Cyfrannog o’r I.C.C. yn yr un ffordd a’r Alban ac Iwerddon fel bod mwy o gricedwyr safonol Cymru yn cael chwarae ar y safon uchaf.

Byddai’r buddiannau’n enfawr:
  • mwy o gricedwyr Cymru yn cael chwarae yng nghwpan y byd
  • cynyddu ymwybyddiaeth criced ymysg ieuenctid Cymru
  • cynyddu balchder cenedlaethol
  • rhoi’r cyfle i’r rhai ohonom ni sydd ddim digon da i chwarae’n broffesiynol i dreulio cwpwl o wythnosau mewn ansawdd dipyn mwy trofannol!
Mae Cymru a Morgannwg wastad wedi cael eu trin yn israddol yn nhermau criced. Mae’r ffaith syml fod cricedwyr o safon Don Sheperd ac Alan Jones heb yr un cap rhyngddynt yn enghraifft gwych o hyn.

Yn y cyfamser, mae Iwerddon a’r Alban yn cael cadw timau rhyngwladol ynghyd a maesu tîm yng nghynghrair undydd y siroedd.

Dylai hyn, ynghyd a’r ffaith fod Cymru yn gyffredinol yn cynhyrchu chwaraewyr o safon uwch na’n cefndryd Celtaidd, olygu y gallai Morgannwg gadw ei statws llawn-amser o fewn strwythur domestig yr ECB. Gwerthfawrogwn fod hyn yn gorfod digwydd gan nad oes unrhywun sy'n cefnogi criced yng Nghymru am danseilio statws Morgannwg.

Gyda dros £7 miliwn yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu Gerddi Soffia i fod yn un o feysydd criced gorau Prydain, byddai gan Gymru gartref i fod yn falch ohono. Yn allweddol, gan y bydd y Cymry yn cynrychioli “Team England” mewn gemau prawf (yn y tymor byr oleiaf) yn yr un ffordd a’r Gwyddel Ed Joyce, ni fyddai’n rhaid cymryd gemau prawf i ffwrdd o Gaerdydd yn y dyfodol. Mae’n ffynhonnell incwm da i Forgannwg ac i Gaerdydd fel dinas - yn yr un ffordd ac y byddai gemau rhyngwladol Cymru.

Rydym eisoes wedi gweld gyda gemau proffîl uchel Morgannwg a’r gemau rhwng Cymru a Lloegr fod y gefnogaeth ar gael a bod y Cymry yn barod i gofleidio tîm rhyngwladol yn yr un ffordd ac y mae’r Gwyddelod a’r Albanwyr wedi gwneud.

No comments: