Article from Ted Jones' Blog - 13/03/07
Fel cefnogwr criced brwd rwy’n croesawu galwad Plaid Cymru heddiw dros tim Cymreig ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd.
Fe fydd gan yr Alban, Iwerddon, Canada, Bermuda, a’r Iseldireoedd timoedd yn cystadlu yn y pencampwriaeth sy’n dechrau heddiw. O ystyried fod yna traddodiad llawer cryfach yng Nghymru, dw i methu deall pam nid oes tim gyda ni yn cystadlu.
Y ddadl yw bod yr ECB (England and Wales Cricket Board) un un gorff, on dos bosib gyda bach o synwhyr cyffredin fe fydd yr ICC a’r ECB yn medru dod i gytundeb gyda galliogu tim Cymreig i gystadlu heb peryglu statws Morgannwg na gem y llidw yng Ngherddi Soffia.
Fe chwareodd tim o Gymru yng nghwpan yr ICC yn y 70au, felly does dim rheswm yn fy nhyb i pam na allai tim o Gymru bod yn chwarae yn y cwpan y byd yma. Mae yna cynsail hanesyddol hollol glir.
Oherwydd y sefyllfa presennol ni fydd un cymro yn chwarae yn y pencampwriaeth. Dychmygwch yr hwb byddai tim Cymreig yn cael ar dablygiad criced yng Nghymru – os bosib hynny ddylai bod ar flaen meddwl y sawl sy’n gweinyddu’r gem.
No comments:
Post a Comment